SL(5)278 - Rheoliadau Safonau Trapio heb Greulondeb 2019

Cefndir a Diben

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (c. 69) er mwyn gweithredu gofynion a gynhwysir yn y Cytundeb ar safonau trapio heb greulondeb rhyngwladol a wnaed yn derfynol rhwng y Gymuned Ewropeaidd, Llywodraeth Canada a Llywodraeth Ffederasiwn Rwsia (y "Cytundeb"). Wrth wneud hynny, mae’r Rheoliadau hefyd yn gweithredu’r safonau cyfatebol a gynhwysir mewn cofnod cytbwys dwyochrog rhwng y Gymuned Ewropeaidd ac Unol Daleithiau America.

Y weithdrefn

Cadarnhaol.

Materion technegol: craffu

Nodir un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn, gan fod yr offeryn i’w wneud yn Saesneg yn unig.

Mae paragraff 2 o Ran 1 o’r Memorandwm Esboniadol yn nodi fel a ganlyn:

“As the Regulations will be subject to UK Parliamentary scrutiny, it is not considered reasonably practicable for this instrument to be made or laid bilingually”.

Mae’r Pwyllgor wedi ysgrifennu at Brif Weinidog Cymru ar y mater hwn, yn dilyn cyngor a gafwyd gan Bwyllgor Gweithdrefnau Tŷ’r Cyffredin, ac mae’n aros am ymateb.

Rhinweddau: craffu

Nodir un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3(ii) mewn perthynas â’r offeryn hwn. Mae’r UE wedi ymrwymo i gytundebau i wella safonau llesiant trapiau a ddefnyddir i ddal neu ladd rhai anifeiliaid gwyllt. Mae paragraff 4 o’r Memorandwm Esboniadol yn nodi mai’r “dyddiad cau ar gyfer gweithredu’r Cytundeb oedd Gorffennaf 2016". O’r herwydd, nid yw’r Cytundeb wedi’i weithredu ar amser. Y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym yw 28 Mawrth 2019, ac mae’r ddarpariaeth drosiannol yn Rheoliad 9 yn gohirio’r gweithredu 12 mis (tan 1 Ebrill 2020) ar gyfer y carlwm. 

Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd 

Mae’r Undeb Ewropeaidd (yr UE) yn rhan o’r Cytundeb. Fodd bynnag, nid oes unrhyw ddeddfwriaeth ar waith ar lefel yr UE. O dan gyfraith yr UE, mae’n ofynnol i Lywodraeth y DU a Gweinidogion Cymru weithredu’r safonau trapio yn uniongyrchol drwy ddeddfwriaeth ddomestig.

Gwneir y Rheoliadau hyn o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac felly byddant yn rhan o gyfraith yr UE a ddargedwir ar ôl y diwrnod gadael.

Ymateb y Llywodraeth

Mae angen ymateb gan y Llywodraeth.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

20 Tachwedd 2018